Hysbysiad Diogelu Data

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni. Mae'r hysbysiad diogelu data hwn (neu ddatganiad preifatrwydd) yn cwmpasu'r data a gesglir yn ystod y broses recriwtio. Gall y broses recriwtio ddechrau drwy gofrestru a mynd i ddigwyddiad gyrfa / marchnata, yn ogystal â chwilio a gwneud cais am swyddi, ac yna hynt eich cais am swydd drwy'r broses hyd at y pwynt cyflogi.

Mae'r datganiad hwn yn egluro pa ddata personol rydym yn eu casglu gennych yn ystod y broses recriwtio, drwy ein rhyngweithiadau â chi a thrwy ein cynhyrchion a sut rydym yn defnyddio'r data hynny.

Rydym yn disgwyl casglu llawer o wybodaeth amdanoch yn ystod y broses a bydd angen ychydig o wybodaeth arnom fel y gallwn gyfathrebu, gwneud penderfyniadau recriwtio a chwblhau contract cyflogaeth. Efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth ddewisol arall i'n helpu i wella'r profiad recriwtio.

Lle mae gwybodaeth yn ddewisol, bydd angen eich cydsyniad arnom i gasglu'r wybodaeth a byddwn yn gwneud hyn yn glir yn ystod y broses recriwtio. Os na fyddwch yn dewis rhoi cydsyniad, neu os byddwch yn dewis peidio â darparu gwybodaeth ddewisol, yna ni fydd hyn yn effeithio ar y penderfyniadau recriwtio y byddwn yn eu gwneud amdanoch.

Data Personol Rydym yn eu Casglu

Yn ystod y broses recriwtio gallwn ofyn i chi ddarparu gwybodaeth, gallwn gofnodi ffynonellau eraill o wybodaeth amdanoch (e.e. adborth gan recriwtwyr), a gallwn amcangyfrif ('infer') neu gyfrifo data eraill (e.e. pennu eich lleoliad o'ch cod post neu gyfrif nifer yr ieithoedd rydych yn eu siarad). Mae'r mathau o wybodaeth a gesglir yn cynnwys:

Cyswllt Personol

Enwau, cyfeiriadau e-bost, cyfeiriad, rhifau ffôn ac ati.

Gwybodaeth Sgrinio/Dethol

Eich CV, canlyniadau addysg, profiad gwaith, cyflawniadau sylweddol, ac ati.

Ni fyddai rhai agweddau ar y wybodaeth hon yn bersonol i chi petai pob maes arall yn ddienw e.e. ystyrir bod eich dewis leoliad yn ddata personol tra ei fod yn gysylltiedig â gwybodaeth gyswllt bersonol arall ond ni ellir ei ddefnyddio i'ch adnabod yn bersonol ar ei ben ei hun. Gall rhywfaint o'r wybodaeth hon gynnwys digon o wybodaeth i'ch adnabod yn bersonol e.e. eich CV.

Data Gwerthuso

Gwybodaeth a ddarperir gan bobl eraill sy'n rhan o'r broses recriwtio am eich addasrwydd ar gyfer y swydd a'ch statws yn y broses recriwtio.

Eich adborth ar y broses recriwtio

Gwybodaeth ddewisol a ddarperir gennych am eich barn ar y broses recriwtio.

Gofynion Arbennig

Gwybodaeth ddewisol a ddarperir gennych e.e. anghenion meddygol, gofynion dietegol, anabledd, dyslecsia, astudio dramor.

Gwybodaeth Gytundebol am Ymgeisydd

Gwybodaeth a ddarperir gennych sy'n ofynnol ar gyfer contract terfynol (yn ogystal â Manylion Personol) Yn cynnwys derbyn cynnig.

Gwybodaeth Gytundebol Arall

Gwybodaeth a ychwanegir gennym er mwyn llunio contract e.e. cyflog, teitl swydd, oriau.

Gwybodaeth Gynefino

Gwybodaeth ychwanegol a ddarperir gennych er mwyn cwblhau'r broses gyflogi a all gynnwys manylion banc, prawf o hawl i weithio, perthynas agosaf, ac ati.

Gwybodaeth Cyflogaeth Cyfle Cyfartal (EEO)

Rhywedd, Hil, Crefydd, Cyn-filwyr, Anabledd neu wybodaeth arall am amrywiaeth

Sut Rydym yn Defnyddio Data Personol

Defnyddir data Cyswllt Personol i gyfathrebu â chi yn ystod y broses recriwtio.

Defnyddir data Sgrinio/Dethol i benderfynu ar eich addasrwydd ar gyfer swyddi rydych yn gwneud cais amdanynt neu i nodi swyddi rydym o'r farn y gallech fod yn fwy addas ar eu cyfer.

Defnyddir data gwerthuso i gofnodi ein hasesiad o'ch addasrwydd ar gyfer swyddi rydych yn cael eu hystyried amdanynt a'ch statws yn y broses recriwtio.

Defnyddir data eich Adborth gennym i wella'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr yn y dyfodol.

Defnyddir data Gofynion Arbennig gennym i ddiwallu unrhyw anghenion a allai fod gennych yn y broses recriwtio.

Defnyddir Gwybodaeth Gytundebol am Ymgeiswyr a Gwybodaeth Gytundebol Arall i gasglu dogfennaeth gytundebol (e.e. cynnig swydd a chontract) a chofnodi'r contract. Os byddwch yn derbyn cynnig o gyflogaeth yna caiff rhai o'r data hyn eu trosglwyddo i systemau eraill rydym yn eu rheoli (e.e. systemau cyflogres).

Defnyddir Gwybodaeth Gynefino gennym i baratoi ar gyfer eich diwrnodau cyntaf yn gweithio gyda ni gan gynnwys sefydlu gwybodaeth gyflogres, buddiannau a phrawf o hawl i weithio. Os byddwch yn derbyn cynnig o gyflogaeth yna caiff rhai o'r data hyn eu trosglwyddo i systemau eraill rydym yn eu rheoli e.e. systemau cyflogres.

Defnyddir Gwybodaeth EEO i fonitro'r broses recriwtio i sicrhau bod ein harferion recriwtio yn deg.

Gallwn gyfuno data â data ymgeiswyr eraill mewn adroddiadau er mwyn ein helpu i fonitro, gwella a chynllunio ein gweithgareddau recriwtio. Ni fydd yr adroddiadau hyn yn cynnwys gwybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolyn.

Am Faint o Amser Rydym yn Cadw Eich Data

Os byddwch yn llwyddiannus ac yn derbyn cynnig, gellir cadw'r data drwy gydol eich cyflogaeth ac am gyfnod ar ôl diwedd y gyflogaeth. Yn yr achos hwn, byddwch yn cael gwybod am bolisïau cadw data pellach fel y bo'n briodol.

Os na fyddwch yn cael cynnig, neu os na fyddwch yn derbyn cynnig, yna byddwn yn cadw'r data, gan gynnwys data lle y gellir eich adnabod yn bersonol, am flwyddyn ar ôl diwedd y gweithgarwch recriwtio fel y gallwn gyfeirio atynt yn achos ymholiadau am y broses recriwtio, gan gynnwys tribiwnlysoedd cyflogaeth neu heriau cyfreithiol eraill.

Ar ôl cadw'r data am flwyddyn, byddwn yn gwneud eich holl ddata yn ddienw. Caiff unrhyw ddata a all gynnwys gwybodaeth lle y gellir eich adnabod yn bersonol eu clirio. Defnyddir y data rydym yn eu cadw i adrodd ar berfformiad hanesyddol ein proses recriwtio.

Rhesymau Pam Ein Bod yn Rhannu Data Personol

Rydym yn rhannu data â'n cwmnïau cyswllt a reolir a'n his-gwmnïau a gwerthwyr eraill sy'n gweithio ar ein rhan. Er enghraifft, cwmnïau rydym wedi'u cyflogi i ddarparu'r dechnoleg recriwtio ac i gefnogi'r broses recriwtio hon, neu gwmnïau i helpu i amddiffyn a diogelu ein systemau. Mewn achosion o'r fath, mae'r cwmnïau hyn yn ufuddhau i'n gofynion preifatrwydd a diogelwch ac ni chaniateir iddynt ddefnyddio data personol maent yn eu cael gennym am unrhyw ddiben arall. Gallwn ddatgelu data personol pan fydd angen yn ôl cyfraith gymwys neu i ymateb i broses gyfreithiol.

Nid ydym yn gwerthu, yn rhentu nac yn masnachu eich data personol.

Eich hawliau: Sut i gael Mynediad i'ch Data Personol a'u Rheoli

Mae gennych hawl i gael mynediad i'r data amdanoch a'u cywiro. Gallwch weld llawer o'ch data personol drwy'r wefan hon. Gallwch ofyn am gopi o'ch data personol drwy gysylltu â'r cyfeiriad isod.

Gallwch gywiro data personol os byddwch yn gweld eu bod yn anghywir neu'n anghyflawn. Gallwch ddiweddaru llawer o'r wybodaeth drwy ddefnyddio'r wefan hon. Os bydd newidiadau eraill y bydd angen i chi eu gwneud yna gallwch ddarparu manylion y newidiadau i'r cyfeiriad isod. Dim ond data ffeithiol a brosesir o fewn y broses recriwtio y gellir eu cywiro. Ni ellir cywiro data sy'n ymwneud â'r meini prawf sgrinio / dethol ar ôl dyddiad cau cyflwyno ceisiadau oherwydd defnyddir y data hyn ar yr adeg honno i wneud penderfyniadau ac mae angen eu cadw yn y cyflwr hwnnw fel tystiolaeth yn achos heriau i degwch y broses.

Cwcis a Thechnolegau Tebyg Eraill

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill y wefan neu fel rhan o ddiogelwch y wefan hon. Ffeil fach o lythrennau a rhifau rydym yn ei rhoi ar eich cyfrifiadur yw cwci.

Bydd unrhyw gwci rydym yn ei osod ond yn cynnwys gwybodaeth ar hap ond unigryw a fydd yn dod i ben pan fyddwch yn cau y porwr. Nid yw'r cwci yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol na sensitif.

Gall y porwr ond defnyddio gwybodaeth y cwci pan fydd yn anfon ceisiadau am dudalennau gwe newydd i'n gweinyddion – ni fydd y porwr yn caniatáu i'r cwci gael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall. Bydd gwybodaeth y cwci bob amser yn cael ei hamddiffyn gan amgryptio cryf pryd bynnag y caiff y cynnwys ei anfon atom.

Mae'r defnydd o'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidol i weithredu ein gwefan yn gywir ac yn ddiogel.

Mae'r cwcis y gallwn eu gosod yn cynnwys:

request_token: Gellir gosod hwn ar gyfer defnyddwyr sy'n ymweld â'r parth *.oleeo.co.uk

oleeo_status: Gellir gosod hwn ar gyfer defnyddwyr sy'n ymweld â'r parth *.oleeo.co.uk

oleeo_session: Gellir gosod hwn ar gyfer defnyddwyr sy'n ymweld â'r parth *.tal.net