Methu Golygu Meysydd

Rydych wedi ceisio golygu rhai meysydd wedi'u cwblhau ond ni fydd y newidiadau newydd yn cadw. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

Sut i Olygu Meysydd Wedi'u Cwblhau

Y peth cyntaf i'w wneud yw gwneud copi o'r wybodaeth sydd wedi'i chadw ar y dudalen honno ar hyn o bryd. Y cam nesaf yw clirio'r dudalen gyfan. Gwnewch hyn drwy glicio ar y ddolen 'Cliciwch yma i glirio pob maes' – sydd o dan 'Cadw a Symud Ymlaen'. Bydd hyn yn tynnu'r holl ddata yn yr holl feysydd ar y dudalen honno. Ar ôl i'r meysydd gael eu clirio dylech allu cadw unrhyw wybodaeth newydd.
Defnyddir y botwm ‘Ailosod y dudalen’ er mwyn adalw unrhyw ddata y gwnaethoch eu dileu ar y dudalen honno cyn i chi bwyso'r botwm 'Cadw a Symud Ymlaen' er mwyn mynd i'r dudalen nesaf. Er enghraifft, petaech yn dileu eich cyfeiriad ar ddamwain, gallwch bwyso'r botwm 'Ailosod y dudalen' ac adalw'r wybodaeth honno, ar yr amod nad ydych wedi symud ymlaen i'r dudalen nesaf drwy bwyso'r botwm 'Cadw a Symud Ymlaen'.

Testunau Cysylltiedig