Mae fy nghyfeiriad e-bost wedi newid

Os nad oes gennych y cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei ddefnyddio pan wnaethoch gofrestru gyntaf mwyach, gallwch newid eich manylion yn y Ganolfan Gwneud Cais.

Sut i newid eich cyfeiriad e-bost

Y Ganolfan Gwneud Cais yw'r lle y gwnaethoch gais. Mewngofnodwch gan ddefnyddio'r manylion y gwnaethoch eu darparu yn wreiddiol a chliciwch ar 'Golygu Manylion Personol'. Bydd hyn yn eich galluogi i olygu a diweddaru eich manylion personol, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfeiriad cartref. Noder: os ydych wedi newid eich cyfeiriad e-bost ni fydd eich enw defnyddiwr yn newid.

Fel arall, gallwch ddweud wrthym beth yw eich cyfeiriad e-bost newydd drwy gwblhau'r ffurflen gymorth. Bydd yn rhaid i chi brofi eich hunaniaeth yn llawn drwy ddarparu dau o'r canlynol o leiaf: enw defnyddiwr, cyfrinair neu god post eich cartref. Am resymau diogelwch a chyfreithiol, ni allwn newid manylion cyfrif heb ddulliau adnabod ac awdurdodi priodol. I anfon e-bost, ewch i'r dudalen Cysylltu â'r Tîm Cymorth Technegol. Noder y gall gymryd hyd at 48 awr i gwblhau'r newid hwn.

Testunau Cysylltiedig