Pan rwy'n ceisio cofrestru, mae'n dweud bod gen i gyfrif eisoes

Nid yw'n bosibl creu dau gyfrif gyda'r un cyfeiriad e-bost.

Os byddwch yn ceisio cofrestru gyda chyfeiriad e-bost sydd eisoes wedi'i gofrestru, byddwch yn gweld y neges gwall ganlynol.

"Mae cyfrif eisoes wedi'i gofrestru gyda'r cyfeiriad e-bost rydych wedi'i ddefnyddio. Defnyddiwch y ddolen 'Ailosod Cyfrinair' ar ochr chwith yr hafan er mwyn ailosod eich cyfrinair."

Dylech ddefnyddio'r un cyfeiriad e-bost ar gyfer eich holl geisiadau fel y gellir eu cysylltu â'i gilydd.

Sut i Gadarnhau a Oes Gennych Gyfrif Eisoes

Os ydych yn ansicr a oes gennych gyfrif neu os ydych yn cael problemau yn cofrestru eich cyfrif e-bost, efallai fod gennych gyfrif eisoes. Defnyddiwch y ddolen neges atgoffa cyfrinair er mwyn i ni anfon eich cyfrinair atoch.

Yn lle hynny, efallai y byddwch yn gweld y neges hon bob tro y byddwch yn ceisio cofrestru:

‘Rydym wedi canfod fod gennych enw defnyddiwr a chyfrinair cydweddol eisoes.

Mae'r Ffurflen Gais hon yn eich galluogi i fewnforio unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani yn aml, megis manylion personol ac addysg, i'r ffurflen gais heb ail-deipio.

Os byddwch wedi anghofio eich manylion mewngofnodi, cliciwch ar y ddolen 'Nodyn Atgoffa Cyfrinair' ar y chwith a byddwn yn eu hanfon atoch drwy e-bost.’

Os byddwch wedi cofrestru nifer o gyfrifon gan ddefnyddio'r un cyfeiriad e-bost, am ba bynnag reswm, nid yw'n golygu y bydd eich enw defnyddiwr yr un peth ar gyfer pob cyfrif.

Os mai eich enw defnyddiwr ar gyfer y cyfrif cyntaf yw:
5andra@derbusbahnof.com
Yna mae'n bosibl mai'r enw defnyddiwr ar gyfer yr ail gyfrif yw:
5andra@derbusbahnhof.com1

Os oes gennych fwy nag un cyfrif, sicrhewch eich bod yn defnyddio'r un cyfrif ar gyfer pob cais. Nid yw dechrau ffurflen gais gan ddefnyddio un cyfrif yn golygu y gallwch gael gafael ar yr un ffurflen gais gan ddefnyddio cyfrif gwahanol. Yn yr un modd, ni fydd manylion mewngofnodi cyfrif 2 yn eich galluogi i fewngofnodi i ffurflen gais a ddechreuwyd gan ddefnyddio cyfrif 1.

Testunau Cysylltiedig